Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Ionawr 2018
Amser:
14.03 -
16.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4505
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Irfan Alam, Cardiff City Council Kate Devonport, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Sally Jenkins, All Wales Heads of Children’s Services Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru Gareth Jenkins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr ymwelwyr o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermuda a oedd yn arsylwi ar y sesiwn.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Irfan Alam, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Cyngor Dinas Caerdydd; Kate Devonport, Pennaeth Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Sally Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Cyngor Dinas Casnewydd a Gareth Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafodwyd y dystiolaeth.